Gwobr Lluniadu Kyffin Williams 2018 - Artistiaid

logo gwobr arlunio 2015

E-Arddangosfa | Artistiaid | Enillwyr


Cliciwch ar enw yr Artist am fwy o wybodaeth:


1 - Persli - Jac Atkinson

Mae fy ngwaith yn cynnwys lluniadu, paentio a cherflunio. Mae lluniadu yn gyfrwng y gallaf fynd yn ôl ato pan nad ydw i’n gallu gwneud dim byd arall; dyma yw fy ffordd o fynegi fy hun ac mae’n bleser y gallaf ymgolli ynddo. Mae amrywiaeth y ffyrdd y gellir defnyddio lluniadu, a symlrwydd y deunyddiau sydd eu hangen i luniadu, yn golygu ei fod yn rhywbeth y gellir ei wneud bron yn unrhyw le ar unrhyw bryd, a byddaf bob amser bron yn gwneud lluniad er ei fwyn ei hun yn hytrach nag fel paratoad ar gyfer gwaith celf arall.

Mae’r darlun hwn o bersli wedi rhoi cyfle i mi arbrofi gyda cheisio portreadu cywreinrwydd y planhigyn sy’n marw, nid yn unig mewn ffordd ffiguraidd, ond drwy wneud iddo ymddangos fel petai’n cael ei amsugno’n araf i mewn i’r papur, yn diflannu mewn gwirionedd, fel sy’n digwydd i blanhigion sy’n marw.

2 - Amser cinio dydd Sul y ty allan i’r Red Lion - Peter Collyer

Mae fy ngwaith yn ymchwilio i hanes y dirwedd, y ffordd y mae dyn a natur wedi ei siapio, y ffordd y mae’r tir yn cael ei weithio ac effaith y tywydd arno. Weithiau, gellir mynegi hyn drwy arsylwi a chofnodi ennyd fach gyda hynny hefyd yn gwneud datganiad sy’n dragwyddol ac yn benodol.

Roeddwn yn arfer gweithio gyda dyfrlliwiau yn unig, ar raddfa fechan, ond erbyn hyn, byddaf weithiau yn defnyddio olew pastel gyda phensiliau lliw sy’n golygu y gallaf weithio ar raddfa llawer iawn mwy. Nid wyf yn gwneud marciau er eu mwyn eu hunain; yn wir, byddaf yn ceisio eu cuddio. Rwyf am i’r sawl sy’n edrych ar y llun neu’r paentiad weld drwy’r arwynebedd i’r olygfa yr wyf i wedi ei gweld a’i chofnodi, dyna yw hanfod fy ngwaith; y lleoliad. Os yw’r llun yn gwneud i chi fod eisiau mynd i weld y lleoliad drosoch eich hun, mae wedi gweithio.

3 - Pont Reilffordd, Thetford - Patricia Clark

4 - Gwrychyn, Llyn Trafwll - Patricia Clark

Rydw i wedi byw yn Ynys Môn am dros 30 mlynedd ac mae wedi bod yn gyfnod cynhyrchiol iawn o ran rhoi syniadau i mi am waith celf. Rydw i’n lluniadu neu’n paentio unrhyw beth sy’n ddiddorol I mi.

Rydw i’n hoffi gweithio gyda gwahanol gyfryngau, o olew ar gynfas i luniadu gydag inc, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi canfod fod cwyr wedi’i gyfuno â inc India du yn rhoi’r effaith yr wyf yn hoff ohoni.

Rwy’n defnyddio pinnau bambŵ wedi eu gwneud gartref i luniadu gan fod yn well gen i’r effaith o gymharu â nibiau metel, ysgrifbinnau corsen neu gwilsyn adenydd.

5 - Portread o Philip Glass - Daniel Crouch

6 - Taid mewn coron bapur - Daniel Crouch

Ers dechrau fy hyfforddiant celf, Pobl fu prif ffynhonnell fy ysbrydoliaeth. Yr hyn sy’n fy nghymell yw ceisio dal cymeriad person gyda diffuantrwydd. Dewisir yr eisteddwyr yn fwriadol oherwydd eu nodweddion anghonfensiynol ond cyfareddol. Mae’r harddwch tawel hwn, sydd â synnwyr o dristwch yn sylfaen iddo, wedi datblygu’n nodwedd arwyddocaol yn fy ngwaith.

Mae lluniadu deheuig yn rhan annatod o’r broses o ddatblygu themâu ar gyfer paentiadau mewn olew. Yn aml byddaf yn dechrau gyda darluniad llai er mwyn penderfynu a fydd yn datblygu i fod yn baentiad llwyddiannus. Fodd bynnag, mewn sawl achos, gall y lluniad gorffenedig ynddo’i hun fod yn ddigon diddorol, heb yr angen i’w ddatblygu ymhellach.

O ran arddull, mae’n bwysig fy mod cynnal cysylltiad fythol â chelf ffigurol hanesyddol a chyfoes. Arlunwyr y Dadeni o’r gogledd ac artistiaid Fleminaidd sydd wedi fy ysbrydoli’n bennaf. Mae rhagoriaeth eu gwaith ar bapur, a’u cyfansoddiadau sydd wedi eu paentio’n fanwl gywir, yn nodweddion yr ydw i’n eu hedmygu’n fawr.

7 - Maria - Fran Collins

8 - Nigel - Fran Collins

Rwy’n mwynhau’r ddisgyblaeth o fywluniadu, y rhyngweithio rhwng y model a’r artist a’r cyfnod byr o amser sydd gennyf i ymateb i’r ystum.

Oherwydd fy mod yn gorfod weithio’n gyflym, mae’n well gennyf luniadau mewn du a gwyn. Rwyf wedi bod yn defnyddio siarcol ers peth amser – mae’n gyfrwng gwych a chynnil. Yn ddiweddarach, rwyf wedi bod yn defnyddio inc a sialc ynghyd â graffit toddadwy i ehangu fy mhalet.

9 - Siwrneiau trwy amser - Diana Davies

Mewn llecyn uchel uwchben Twyni Dunstable, mae golygfeydd ysblennydd ar draws y cefn gwlad cyfagos i’w gweld o Sŵ Whipsnade. Yn ei hanfod, mae’n safle agored iawn, felly pan wnaeth y rodfa dywyll hon o goed gyda’r goedwig y tu ôl iddi ymddangos, tynnwyd fy llygad ati ar unwaith.

Oherwydd eu bod wedi cael eu plannu mewn dull ffurfiol, roedd effeithiau’r gwyntoedd cryfion a’r diffyg amddiffyniad ar eu cyfer yn golygu fod pob coeden unigol yn arddangos ei brwydr unigol ei hun i fodoli. Mae blaendir y coed cerfluniedig marw sy’n arwain at dwnnel dywyll o goed pwerus, byw sydd serch hynny, â brwydr i fodoli, yn creu’r ymdeimlad o anesmwythyd, anniddigrwydd ond mae yna goridorau o oleuni sy’n awgrymu bod lle agored y tu draw.

10 - Tirlun hindreuliedig - Gareth Davies

11 - Twllwch yn agosáu - Gareth Davies

Lle mae rhywun yn dechrau mynd ati i geisio disgrifio’n glir fwriad artist. Yn aml iawn, nid yw’r bwriad yn gwbl glir i’r artist ei hun. Mae ef/hi yn dilyn rhyw reddf y tu mewn iddo/iddi i greu. Ar adegau, mae dylanwad allanol, boed yn naturiol, yn gymdeithasol neu’n wleidyddol yn chwarae rhan gref. Gall meddyliau, breuddwydion a dychymyg cryf hefyd fod yn fannau cychwyn. Mae’r rhain yn bersonol i bob artist unigol ac efallai y byddant neu na fyddant yn cael eu deall gan y sawl sy’n edrych ar y llun. Nid yw’r ffaith y bydd un unigolion yn deall rhywbeth yn iawn yn golygu y bydd unigolyn arall yn ei ddeall. Mae’r deunyddiau a’r technegau a ddefnyddir â rhan bwysig ac ni fedr rhywun di-brofiad eu gwerthfawrogi’n llawn.

Mae’n debyg mai’r pethau gorau i’w wneud yw edrych ar y lluniau heb fod ag unrhyw syniadau ymlaen llaw a gweld a oes unrhyw beth yn eich cyffwrdd un ffordd neu’r llall.

12 - Y cysgod y mae’n ei ddilyn - Andy Dobbie

Mae Andy Dobbie yn artist sy’n byw yn Ynys Môn ac sy’n paentio ac yn lluniadu amrywiaeth o bynciau (gan gynnwys Portreadau, Tirluniau, Ffigyrau, Bywyd Llonydd a Murluniau) mewn acrylig, olew, pensil a siarcol ac, yn ogystal, mae’n gwneud printiau leino a cherfluniau wedi eu gwneud o fetel sgrap wedi ei weldio.

Mae’n cael ei gyfareddu gyda’r modd yr ydym yn portreadu ffurfiau tri dimensiwn ar arwynebeddau dau ddimensiwn, yn arbennig felly o safbwynt yr wyneb a’r ffurf ddynol.

Mae wrth ei fodd hefyd gyda’r amrediad eang o leoliadau prydferth sydd gan Ynys Môn i’w cynnig ac mae’n chwilio’n barhaus am ffyrdd newydd i wneud cyfiawnhad â nhw ar gynfas.

Mae cael ei ysbrydoli gan artistiaid o bob cyfnod a symudiad, ond yn arbennig o’r cyfnod Ôl-argraffiadaeth ymlaen ac yn enwedig Ciwbiaeth sydd, yn ei farn ef, â mwy i’w gynnig i artistiaid ffiguraidd yn yr oes ddigidol.

Mae ei arwyr artistig yn cynnwys Pablo Picasso, Henri Matisse a David Hockney.

13 - Yr Addurnwr - Anthony Griffin

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar ymagwedd glasurol. Drwy chwilfrydedd ac arsylwi, rwy’n ceisio cael dealltwriaeth ddyfnach o’m pwnc.  Rwy’n gobeithio bod y marciau a’r arwyddion a roddaf ar yr wyneb yn cyfleu rhywbeth am yr hyn sy’n mynd ymlaen o dan y wyneb.

14 - Mis Medi 2017, Gaerwen - Daisy Wyn Griffith

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar yr amgylchedd sydd agosaf ataf, fy ymateb i’r hyn a welaf o’m cwmpas a’r modd yr wyf rhyngweithio gyda’r hyn a welaf. Gweithio gyda chyfryngau traddodiadol, gydag ymwybyddiaeth bob amser o bwysigrwydd lluniadu, p’un a yw hynny gartref neu yn y tirlun ehangach.

15 - Mynwent Eglwys Llaneilian - Pamela Green

Ers nifer o flynyddoedd rŵan, rwyf wedi canolbwyntio ar y ffurf ddynol gan gynhyrchu gwaith o fywluniadau a grëwyd mewn dosbarthiadau lleol.

Yn anghyffredin i mi, crëwyd y llun hwn wedi i mi fynychu wythnos awyr agored Mike Knowles yn Llaneilian in 2017, am y tro cyntaf ers 1995. Roedd y tywydd yn braf ac wedi cerdded ar hyd yr arfordir, cefais fy nenu yn ôl yno gan ei siapiau a’i gysgodion tywydd.

16 - Hedfan i Ffwrdd - Geoff Hewitt

Mae fy ngwaith yn ffigurol, ac yn archwilio’r dirwedd, yn darlunio digwyddiadau cyffredin, cyfnodau mewn amser a’r hyn nas dywedir. Fy mwriad yw fod fy lluniadau a’m paentiadau yn cynnig naratif sy’n gwahodd ac yn galluogi’r edrychwr i grwydro, i ddefnyddio eu profiadau eu hunain, er mwyn dod i gasgliadau gwahanol a gwneud cysylltiad agosach â’r gwaith.

Rwy’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau, olew yn bennaf, ond mae lluniadu’n sail i bopeth a wnaf.

Mae ‘Hedfan i Ffwrdd’ yn hunangofiannol. Mae’n darlunio gobaith ac uchelgais drwy gyfrwng model cartref o awyren yn erbyn cefndir o waith mewn pwll glo.

17 - Nant Ffrancon - Bryn Humphreys

Mae byw mewn ardal mor brydferth ag Ynys Môn a bod ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri sydd mor gywrain, wedi fy ysbrydoli i greu celf ers amser maith.

Rwy’n ceisio darlunio gwaith celf mwyaf natur gan ddefnyddio paent a phapur ac mae bob amser yn her, ac nid yw hynny byth yn hawdd ei wneud. Ni allaf byth ragori ar berffeithrwydd natur, ond ni wnaf byth roi’r gorau i baentio, sy’n gallu bob yn dasg anodd, oherwydd fy mod yn caru hynny gymaint.

18 - Wal Cerrig Sych 1 - Gill Hopley

Rwy’n byw ar Cefn Ddu, sy’n edrych dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn. Mae waliau cerrig sych yn rhan annatod o’r dirwedd. Mae’r olygfa o fy nrws yn glytwaith o gaeau wedi eu ‘gwnïo’ â’i gilydd gan waliau cerrig sych. Mae’r lliwiau a’r siapiau sy’n amlwg yn y clytweithiau hyn yn aml yn adleisio harddwch ffenestri lliw. Rydw i’n cael fy ysbrydoli a fy syfrdanu gan gyflawniad anferth y dynion sydd wedi adeiladu’r waliau hyn, yn aml mewn llefydd mynyddig, digroeso.

Mae’r siapiau a grëir gan y ffigyrau’n cyfleu realiti eu llafur ac yn cyfleu’r cryfder a’r ymdrech sy’n rhaid ei gael i godi a gosod y cerrig. Mae siapiau a phatrymau a grëir gan ganghennau noeth y coed yn y gaeaf yn ymgordeddu am yr awyr yn cynrychioli’r amodau cignoeth, agored a chaled a brofwyd wrth adeiladu’r waliau hyn.

‘Wal Garreg Sych 1’ yw fy ymateb i’r pwnc cyfarwydd hwn ac mae’n dathlu’r gweithwyr hynny.

19 - Mabli Yn Nhy Nain Glanffrwd - Eleri Jones

20 - Moel Siabod O Capel Garmon - Eleri Jones

Mae’r ddau ddarn o fy eiddo i yn yr arddangosfa yn luniadau a grëwyd â chymysgedd o inc India, sialc gwyn, graffit a siarcol, dyma’r deunyddiau sydd yn fy mocs darlunio yn fy Fan. Crëwyd y tirlun yn y fan a’r lle mewn ymateb i’r olygfa o Foel Siabod o fy nghartref. Rwy’n mynd heibio i’r olygfa hon bob dydd bron wrth fynd â’m merched i’r ysgol; roeddwn yn gwneud y gwaith yn fy fan tra’r oedd fy mabi’n cysgu. Roedd rhaid i mi weithio’n reddfol ac yn gyflym cyn iddo ddeffro, yn aml mae elfen o frys ynghlwm â’r dull hwn o weithio ac nid yw’n rhoi cyfle i mi fod yn rhy ofalus, sy’n esgor ar ymateb uniongyrchol a gonest i’r dirwedd.

Mae’r lluniad o ‘Mabli yn Tŷ Nain Glanffrwd’ yn astudiaeth ar gyfer paentiad olew yn seiliedig ar fy atgof o fy merch yn chwarae yn llofft ei Hen Nain gyda hen frwsys gwallt a drychau. Cefais fy nenu’n arbennig gan brysurdeb y papur wal, y carped a’r defnyddiau o’r 1960au yn yr olygfa hon, ac mewn cyferbyniad roedd Mabli yn chwarae’n dawel yn yr ystafell, yn ei byd bach ei hun, ac roedd yn ymddangos fod amser wedi sefyll yn llonydd.

21 - Wedi’i ysbrydoli gan freuddwyd. Gweithgarwch ar yr un ochr hon, llonyddwch ar y glannau gyferbyn - David Jones

22 - Wedi’i ysbrydoli gan freuddwyd: A welodd o ddawnsio hen-ffasiwn yr angel - David Jones

Fy nod yw creu byd o fy nychymyg – delweddau a gwrthrychau sy’n apelio i’r llygaid.

Weithiau, mae delweddau o fy mreuddwydion yn fy ysbrydoli, weithiau o fy atgofion o fy mhlentyndod, weithiau o wrthrychau mytholegol – byd hunaniaeth ddiwylliannol yr isymwybod; sy’n cael eu cynrychioli’n aml mewn straeon plant a hwiangerddi – ‘the cow jumped over the moon’, ‘the dish ran away with the spoon’.

Rwy’n cael ysbrydoliaeth o gelfyddyd gwerin, yn arbennig celf y dieithryn – grym obsesiynol celf y gwallgof.

23 - Cwsg Diwethaf - Bridgitte Kern

Lluniadu yw fy angerdd; gwneud cysylltiad rhwng y meddwl a’r bod, a’r byd o’n cwmpas. Bydd y lluniad yn adlewyrchu pwy ydych chi ar y pryd a bydd yn aros yn eich pen yn hirach, gan ei fod yn deillio’n uniongyrchol ohonoch chi. Bydd yn fodd o atgoffa ac adlewyrchu diddordeb dyfnach a meddyliau cudd.

Weithiau rwy’n dechrau scriblo neu wneud llinell union gywir, yn araf iawn, wedi llwyr ymgolli yn y grefft o edrych; cerdded y llinell dros yr arwyneb yr wy’n ei weld, heb droi fy llygaid tuag at y papur.

Ond mae’r lluniad hwn yn wahanol iawn, gan ei fod yn ddarlun o fy mam ar ddiwedd ei hoes.

Dechreuais lunio nodweddion ei wyneb gyda phensil fain a llinell feddal, fel petai modd i mi ei brifo. Daeth gweddill y darlun yn rhwydd. Gall y grefft o luniadu fod yn un od o werthfawr.

24 - Barbara - Ann Lacey

I mi mae lluniadu yn fodd o ddarganfod.

Rwyf wrth fy modd yn darlunio pobl; mae’r pen a’r wyneb yn fy nghyfareddu’n arbennig. Rwy’n ceisio dal hanfod y person yr ydw i’n ddigon ffodus o’u portreadu.

Rwy’n gwerthfawrogi cyfeiriadau hanesyddol. Gwaith Gwen John, y mae ei phortreadau yn llonydd ac yn meddu ar ymdeimlad synfyfyriol a gwaith Paula Modersohn Becker, am y datblygiad yn ei harddull gan symud tuag at fwy o symlrwydd mewn ffurf. Rwy’n edmygu gwaith David Hockney a’r defnydd o rythm ac amrywio llinellau yn ei bortreadau cynnar. Dyma rai o nifer o artistiaid yr ydw i’n troi atynt am ysbrydoliaeth.

Heblaw am bortreadau, rydw i’n archwilio themâu megis y fenyw glasurol mewn mytholeg, hunaniaeth a synnwyr o le.

I mi, mae dwy ffordd o weithio, dull y ‘pen’ academaidd a dull ‘y galon’ sy’n fwy chwareus ac ymchwilgar. Rydw i’n eu dwyn ynghyd yn fy ngwaith gan ddefnyddio lluniadu, peintio, gludwaith ac argraffu.

25 - Ar Ddyletswydd - Lou Moore

Wrth gerdded ar ddiwedd y gwanwyn, arhosais i edmygu’r olygfa o ddafad ac oen yn hepian cysgu yn yr heulwen. Yna, sylwais ar y ddafad yn cil agor ei llygaid – bron yn ddiarwybod a heb yr un symudiad arall. Wnaeth hi ddim tynnu ei llygaid oddi arnaf nes fy mod wedi oddi yno, a wyddai ei hoen bach ddim fod ei fam “ar ddyletswydd” drwy’r amser.

26 - Eleri Mills - Yn Y Dyffryn, Y Llwybr

Er fod tirwedd a thraddodiad barddol Cymru wedi dylanwadu ar fy ngwaith mae’r lluniad hwn, sy’n perthyn i gyfres newydd o waith mewn inc ar bapur, yn fy herio o ran graddfa, techneg, cynnwys emosiynol a thempo.

Yn y gwaith hwn, rydw i’n darlunio tirwedd haenog, a theimlad o berthyn i le. Mae risgiau’n gysylltiedig â gweithio gyda inc, ac nid oes rhyddid i wneud camgymeriad – yr hyn sy’n fy mhryderu yw ymdrin drwy’r amser â balans a rhythm. Mae’n broses gorfforol ac ystumiol iawn... ffurf o goreograffi a chreu map personol sy’n dathlu tirwedd hen ond cyfarwydd.

27 - Tyllau a Darnau, hen lôn yn Nyffryn Ceiriog - Richard Mountford

Mae’r lluniad hwn o lôn fechan yn y cefn gwlad sydd wedi dirywio ac sy’n llawn tyllau yn seiliedig ar ran o lôn rhyw filltir o’m cartref, yn ymyl Coedwig Caemor, 1400 o droedfeddi i fyny ochr Dyffryn Ceiriog.

Roedd y cyfuniad o lôn sydd wedi cracio a dirywio yn datgelu haenau hynach o wyneb y lôn oddi tano ac yn cyferbynnu ag ambell i ymgais i drwsio’r difrod, darn o darmac newydd yma ac acw’n brwydro’n aneffeithiol yn erbyn ton o ddirywiad, yn bwnc deniadol iawn ar gyfer lluniad.

Yn ystod yr amser yr oedd y lluniad yn datblygu roedd yna adegau pan oeddwn yn teimlo fy mod yn lluniadu delwedd dopograffaidd, y rhannau a oedd wedi eu trwsio yn cynrychioli’r planhigfeydd pur a welir ar hyd a lled Cymru, mae’r rhan yn y canol yn atgoffa rhywun o rostiroedd, y pwll bychan yn lyn yn y mynyddoedd wedi ei amgáu â llethrau sgri, a phatrwm caeau, a tharmac wedi cracio, ond yna mae’n dychwelyd i fod yn lôn fynyddig Gymreig sy’n dirywio ac wedi cael ei thrwsio mewn ambell fan.

28 - Melin Lechi Segur - Louise Morgan

Mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn baentiadau o’r dirwedd ac rwy’n cael fy ysbrydoli gan y dirwedd sy’n newid yn barhaus a chyda threftadaeth bensaernïol Gogledd Cymru. Mae Waldo Williams, y bardd, hefyd yn ddylanwad arnaf, mae ei gerddi clyfar yn cysylltu’r dirwedd gyda’r naratif dynol. Mae elfennau’r dirwedd yn newid, mae pob elfen ar siwrnai newid ac mae’n adlewyrchiad o siwrnai bywyd dyn.

Er mwyn cyflawni nod greadigol fy ysbrydoliaeth, rwy’n gweithio o fywyd ac o’r cof. Rwyf wedi addasu fy nhechnegau gwneud marciau i ymdopi gyda’r amgylchedd a hefyd i ddangos symudiad a dyfnder. Mae’r symudiad yn adlewyrchiad o’r amgylchedd sy’n newid a’r dyfnder yn rhoi ymdeimlad o dreigl amser ac yn fynegiant o’r etifeddiaeth a adawyd gan genedlaethau hŷn.

29 - Chwech o Sgyfarnogod - Colin See-Paynton

30 - Tylluan Wen a Sgwarnog Brown - Colin See-Paynton

Mae popeth yn cychwyn gyda lluniad. Dyma’r efallai’r mynegiant puraf a chywiraf o’n cariad tuag at y byd, mae’n burach hyd yn oed na’r gair ysgrifenedig neu lafar.

Pan fyddwn yn lluniadu, rydym yn talu teyrnged i, ac yn dangos parch at ein testun yn y modd mwyaf trylwyr a chlos gan ennyn dealltwriaeth a’r gwerthfawrogiad llawnaf o’i ryfeddodau. Hyd yn oed fel plant ifanc, dyma’r peth yr ydym yn ei wneud yn fwyaf naturiol, heb unrhyw rodres a chyda llawenydd. Mae lluniadu wedi siapio ein gwreiddiad ac yn sylfaen iddo.

31 - Ceiliog – Mynydd Gwefru, Llanberis - Glyn Price

Mae’r gwaith yr ydych yn ei weld wedi cael ei gwblhau yn y stiwdio gan ymchwilio i dechnegau a phrosesau. Y cyfan yr wyf i’n ei wneud yw lluniadu a phaentio’r byd sydd o’m cwmpas.

Rwy’n credu mewn creu darnau gwreiddiol a gweld y byd o’r newydd – yn syml, rwy’n ymateb i’r hyn a welaf. Mae gennyf ddiddordeb yn y tir a’i liwiau a’i siapiau ynghyd â’r hanes a’r diwylliant aruthrol sydd gennym yma yng Ngogledd Cymru ac sy’n rhan annatod o’r chwareli llechi a’r mynyddoedd o’u cwmpas.

Er bod rhywfaint o’r gwaith yn ymddangos yn ffiguraidd, rwyf yn gyson yn gwthio’r ffiniau a chymryd risgiau gan gynhyrchu gwaith haniaethol ar adegau a defnyddio gwahanol fethodolegau a dulliau er mwyn cynnal fy niddordeb a pharhau i ymgysylltu.

Mae’r tir yn bwysig iawn i mi ac rwyf eisiau parhau i ymchwilio yn yr awyr agored. Yn syml, rwy’n ymateb i’r tir lle cefais fy ngeni a fy magu gan geisio rhoi cipolwg o ennyd mewn amser drwy broses greadigol.

32 - Braslun o Asgwrn ar Draeth - Timothy Pugh

Rwyf yn artist Amgylcheddol sy’n gweithio gydag amrediad eang o gyfryngau a phrosesau cymysg sy’n cael eu defnyddio i greu lluniadau, gosodiadau ac ymyraethau sy’n benodol i safleoedd. Mi es i Golegau Celf Wrecsam a Chaeredin gan raddio yn 1989 gyda Gradd B.A. (Anrhydedd) mewn Cerameg. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio fel artist hunan-gyflogedig ac wedi arddangos fy ngwaith mewn orielau, amgueddfeydd a lleoliadau eraill ar draws y D.U. ac yn rhyngwladol. Rwy’n gweithio mewn lleoliadau trefol a gwledig gwahanol iawn gan greu gosodiadau a lluniadau sy’n cael eu dogfennu ar ffurf ffotograffaidd gan ddefnyddio ffilm cyfrwng canolig a phrosesau digidol.

Mae’r gwaith celf yr wyf wedi ei gyflwyno ar gyfer yr arddangosfa yn luniad pensil a dyfrlliw o asgwrn y deuthum ar ei draws ar draeth yn Whitehaven, gorllewin Cumbria. Rwy’n ystyried lluniadau fel rhan hanfodol o fy ymarfer creadigol ac yn elfen bwysig o fy mhroses ymchwilio i’r celfyddydau gweledol.

33 - Marchnad Bryncir - Anwen Roberts

Fel un sy’n byw mewn amgylchedd amaethyddol a gwledig, rwy’n cael fy ysbrydoli gan ei waith, ei fywyd, ei bobl a’r anifeiliaid sy’n gysylltiedig â’r ffordd hon o fyw.

Mae Marchnadoedd Anifeiliaid yn rhan o’r diwydiant sy’n cwmpasu nifer o’r elfennau hyn; roedd Bryncir ar ddiwrnod marchnad i’w weld yn bwnc gwych, mor brysur a llawn bywyd.

Rwyf wedi herio fy hun i adlewyrchu hyn yn fy lluniad gan ddefnyddio powdr graffit, pensil a phastel.

34 - Caffi - Judy Roberts

Rwy’n mwynhau darlunio a phaentio pobl, adeiladau a’r dirwedd leol. Mae’r patrwm a grëir gan gysgodion o ddiddordeb arbennig i mi, yn enwedig y cyferbyniad a’r siapiau a grëir drwy weithio yn erbyn y goleuni ac yn aml iawn, rwy’n gor-bwysleisio’r persbectif hwnnw. Rwy’n gweithio o bynciau byw, o frasluniau a ffotograffau a hefyd o fy nychymyg. Rwyf wastad wedi darlunio a phaentio ond ers ymddeol a symud i Ynys Môn yn 2007, rwyf wedi medru gwneud mwy o waith a’i arddangos yn lleol. Mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith yn cael ei wneud mewn acrylig, siarcol ac inc a golch.

35 - Edrych yn Araf - Gilly Thomas

I mi, mae’n rhaid i’r weithred o arlunio neu baentio a’r delweddau a gynhyrchir fod â rheswm neu ystyr ynddynt eu hunain.

Yn eironig, mae ystyr yn anniffiniadwy a gall fod yn gwbl absennol mewn bydysawd afresymegol.

Rwy’n ceisio dyfeisio delwedd sy’n cyfleu (neu’n cuddio) ynddi rhyw fath o fersiwn ddistylledig o’r hyn sy’n fy mhryderu i mewn byd sy’n llawn o bethau sydd ag arwyddocâd rhyfedd a goruchafiaeth ormesol y pethau dibwys.

Mae’n weithgaredd hurt, ond mae’n rhoi i mi, pan fyddaf yn taro’r hoelen ar ei phen o ran fy nheimladau, yr hyn y gallaf ond ei ddisgrifio fel pwl o gallineb.

Yna gallaf ddechrau, mewn ffordd gyfundrefnol, i ymdreiddio i fy nirgelion fy hun, sydd mae’n siŵr, yn gyffredin i bawb.

36 - Gwanwyn - Amy Walker

Roedd celf, technoleg a dylunio â rhan flaenllaw drwy gydol fy ngyrfa mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar. Annog plant ifanc i ymchwilio i nodweddion deunyddiau celf a dyluniad oedd fy mhrofiad mwyaf rhyddhaol, yn artistig, hyd yma. Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni greu arddangosfeydd rhyngweithiol ac roedd hyn ymhlith y profiadau mwyaf difyr yr wyf wedi eu cael erioed o ran ymchwilio i bosibiliadau celf a dylunio. Gwnaed cyfeiriad at ein harddangosfeydd mewn tri o adroddiadau OFSTED. Fe wnes i gyd-arwain prosiect Comenius cenedlaethol, ‘Cymryd rhan mewn Celf’ gydag ysgolion yn Sbaen, Ffrainc a Rwmania.

Ar ôl ymddeol i Ynys Môn, roedd yn braf cael digonedd o amser i ymchwilio i, a datblygu fy nghreadigrwydd, ac mae’n parhau i esblygu. Wrth arlunio, gallaf fynd ar goll ac yna ddod o hyd i mi fy hun eto.
Mae ‘Gwanwyn’ yn cynrychioli’r llygedyn o obaith am ddyddiau gwell.

Mae fy ngwaith wedi cael ei arddangos ym Mryste, RCA Conwy, Oriel Môn, Ucheldre, Canolfan David Hughes a Neuadd y Dref Biwmares, Ynys Môn.

37 - Camu Allan - Sarah Whiteside

Mae camu allan o fy stiwdio newydd yn Uned 5 Iard Cychod Dinas, Y Felinheli, lle rydw i’n rhan o grŵp o bedwar o artistiaid a gweithwyr coed, wedi ehangu fy ngorwelion personol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ar lannau’r Fenai, lle mae’r llanw, y tywydd a’r bywyd gwyllt yn aml yn dymhestlog, mae’r bobl leol yn groesawgar ac yn gymwynasgar. Rydw i’n dysgu’n gyflym, wrth i mi ddefnyddio offer newydd i wneud cynalbrennau i ymestyn fy nghynfasau ar gyfer paentiadau olew.

Mae cyfrwng paent olew yn fy arwain wrth i mi luniadu a pheintio er mwyn creu ymateb i’r lle newydd hwn.

38 - Pedol yr Wyddfa - David Woodford

Mae lluniadau’n meddu ar sawl gwedd; bob tro â’u pwrpas eu hunain, byth yn israddol i baentio, ac fel deunydd cyfeirio ar gyfer gwaith arall. Mae defnyddio golch yn creu awdurdod o ran tonyddiaeth, strwythur ac enciliad gofodol.

Mae’r ddelwedd hon wedi’i darlunio ar bapur llyfn iawn gan ddefnyddio amrywiaeth llawn o bensiliau, ac yn aml mae eu potensial i fynegi’n cael ei danbrisio. Mae’r arwynebau’n cael eu hadeiladu mewn modd sy’n debyg i wydro mewn paent olew, a dim ond ar arwyneb llyfn y mae hynny’n bosib.

Er bod y ddelwedd yn ymddangos yn un gonfensiynol, rydw i’n gofyn i’r gwyliwr edrych yn ofalus iawn ar ansawdd yr arwynebau. Rwy’n hoff o ddatganiad Ernst Gombrich nad yw artistiaid mewn gwirionedd yn lluniadu (neu baentio) yr hyn y maent yn ei weld ond yn hytrach eu bod yn gweld yr hyn y maent yn ei luniadu. Gallaf eich sicrhau fod y broses yn un synhwyrol yn hytrach nag yn un ddarluniadol.

Wrth eistedd ar ben clogwyn, cymerodd y darlun hwn 20 diwrnod i mi ei gwblhau – mae paentiadau stiwdio sy’n deillio o wybodaeth o’r fath yn aml yn cael eu creu dros ddwy i ddeng mlynedd.

39 - Cast Arddwrn - Dorothy M Williams

Tarfwyd ar fy mywyd gwaith arferol ar ôl i mi ddisgyn ar greigiau yn Aberffraw a thorri fy arddwrn. O’r herwydd, bu’n rhaid i mi arafu a chanolbwyntio ar y gwahanol rwymau a roddwyd i mi.

Yr ail fersiwn oedd y darlun arbennig hwn; cefais fy nghyfareddu gan wead ac amlinellau’r cast, a ddechreuodd ymdebygu i ffwng. Darluniwyd y ddau safbwynt ar raddfa fwy gan ddefnyddio graffit ac mae mwy o ffocws na’r arfer am fy mod yn cael trafferth dal fy mraich yn ei lle.

41 - Golau yn Nant Ffrancon - Jeremy Yates

Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio ar ddarluniau mawr gan ddefnyddio siarcol cywasgedig ar baneli gwyn wedi eu preimio. Portreadau atmosfferig wedi eu hysbrydoli gan dirwedd Gogledd Cymru yw’r rhain fel arfer, neu lefydd yr ydw i wedi ymweld â nhw yn ddiweddar, yr Alban (Mull) a gogledd Ffrainc. Gwaith stiwdio ydynt sydd wrth gwrs yn canolbwyntio ar edrychiad ond heb fod yn gynrychioliad rhy gaeth – cydbwysedd o’r ddau yw’r nod, a daw rhyddid o beidio cynnwys lliw: mae’n rhoi mwy o ffocws ar wead, gwrthgyferbyniad ac arwyneb.

42 - Chwilio am y Dolffiniaid - Ruth Koffer

Mae Celf yn gyfrwng pwerus, y gellir ei ddefnyddio i archwilio ofnau a gobeithion dyfnaf pobl, ac yn iaith i ddisgrifio pleserau bychain ar y daith yn ogystal.

43 - Uwchben Y Clywedog - Diane Rose

Mae lluniadu yn y dirwedd yn fy nghysylltu â natur a rhythmau’r tymhorau. Rydw i wedi lluniadu’r goedlan arbennig hon nifer o weithiau, ac eto mae pob ymweliad yn ysbrydoli persbectif a golwg gwahanol.

Mae’r goedlan uwchben yr Afon Clywedog yn drwchus ac mae’r coed yn wyrdroëdig, fel petaent yn gorfod brwydro i weld y goleuni - ond, mewn cyferbyniad, mae’r mwsogl oddi tanynt yn dawel ac yn ddigyffro ac yn creu ymdeimlad o heddwch.

Bwriad y darn hwn yw portreadu awyrgylch unigryw'r dirwedd hon sydd, y mae’n ymddangos i mi, yn meddu ar ymdeimlad arallfydol, dirgel.

Yr hyn sy’n rhoi ysbrydoliaeth barhaus i mi yw fy nghariad at natur a’r cyffro a deimlaf wrth i’r tymhorau newid – pob un â’i awyrgylch a’i gymeriad ei hun.

44 - Cariad a cholled… o strydoedd Aberystwyth - Jane Roy

Awyrgylch ac amgylchedd sy’n addas ar gyfer datblygu celf, dyna beth yr ydw i’n ei deimlo pan fyddaf yn gweithio yn fy stiwdio yn yr Hen Goleg, Aberystwyth.

Mae cerdded drwy strydoedd yn dref yn rhoi cyfle i mi adfyfyrio; dyma’r adegau pan fydd gwrthrychau arbennig, sydd naill ai wedi mynd ar goll neu wedi cael eu taflu, yn dod i fy sylw. Felly mae’r daith ddyddiol hon i fy stiwdio ac yn ôl adref wedi arwain at gasgliad arbennig o wrthrychau sydd wedi esgor ar y darlun hwn.

Drwy ddefnyddio’r broses o luniadu gyda natur gyffyrddadwy gweithio ar bapur, rydw i’n adeiladu delwedd yn raddol. I mi, mae hyn yn efelychu prosesau bodoli a gwisgo, amsugno rhywfaint o hanfod yr amgylchedd fu’n rhan o’r gwrthrychau yn y gorffennol.

Mae’r posibiliadau o ymgorffori eu bywyd yn y gorffennol, neu amgylchiadau amgen ymhell tu hwnt i’w sefyllfa wreiddiol, yn fy nghludo i ryw amgylchedd neu le arall ac yn dwysau wrth i mi weithio.

45 - Caerfaddon; Y Syrcas 2 - Kim Whitby

46 - Cilfach Fareham - Kim Whitby

Llefydd unigryw, hanesyddol a daearyddiaeth fendigedig yw fy mhwnc ac rwy’n ymgolli yn hynny.

Rydw i wrth fy modd lluniadu ac yn mwynhau’r her o drosi a dal cymeriad cryno gwrthrychau tri dimensiwn ar bapur. Rwy’n ymddiddori yn y modd y mae rhywbeth yn aml iawn yn ymyrryd neu’n cuddio yr hyn yr ydym yn ei weld; hyd yn oed mewn tirwedd agored, a’r modd yr ydym yn gallu ‘edrych’ drwy’r rhwystrau. Mae strwythurau mawr, amrywiol yn fy nenu. Rwy’n ymhyfrydu mewn archwilio graddfa.

Rwy’n ffodus fy mod wedi cael profiad o Gymru wledig, trefi arfordirol a dinasoedd mawr hanesyddol i’m hysbrydoli.

Rydw i’n defnyddio dyfrlliw ac olew, gan ddefnyddio paled lliw cyfyngedig iawn, ond rwy’n fwyaf hoff o ddarlunio mewn inc. Mae llyfrau brasluniau yn rhan hanfodol o’r ffordd yr wyf yn gweithio. Rydw i’n dod yn fwyfwy ymwybodol fod fy ngwaith gorau’n cael ei wneud ên plein air.

47 - Cornel o’r ardd - Susan M Barber

48 - Yng Nghoedwig y Gwerni - Susan M Barber

Rydw i wedi mwynhau paentio a lluniadu erioed. Am dri deg mlynedd ers cwblhau fy ngradd Celf Gain treuliais gyfnod helaeth o fy amser rhydd yn cynnal y diddordeb hwn. Fodd bynnag, ers i mi dderbyn ymddeoliad cynnar yn 2014, rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i dreulio llawer mwy o amser ar fy ngwaith celf. Fy mhrif ysbrydoliaeth yw harddwch annisgwyl y byd o’n cwmpas. Ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw le, gall y golau, y lliw, y patrymau a’r gweadau gyfuno yn y fath fodd ei fod yn codi awydd arnoch chi i estyn am eich llyfr brasluniau a’ch câs pensiliau.

Credaf mai dyma’r rheswm fy mod y mwynhau darlunio cymaint - does dim angen offer ffansi neu ddeunyddiau drud (er bod pethau bendigedig ar gael), mae beiro a chefn amlen yn gwneud y tro. Mae uniongyrchedd lluniadu yn grêt; rydych yn darlunio, ac os ydych chi’n gwneud camgymeriad gallwch roi cynnig arall arni!

49 - Cynllun ar gyfer Baddondy - George Bolwell

Astudiais Gelf yng Ngholeg Camberwell a Phensaerniaeth yn y Bartlett. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel dylunydd pensaernïol, ac yn parhau i luniadu pryd bynnag y gallaf.

Mae fy ngwaith yn astudio afresymoldeb, o ran y cyflwr dynol a’r byd naturiol.

Mae’r llun ‘Cynllun ar gyfer Baddondy’ yn deillio o gyfres o gynlluniau ar gyfer adeilad ffuglennol. Mae’r ddelwedd yn ddarluniad o amgylchedd pensaernïol lle mae cyrff, isdyfiant a’r rhannau sy’n ffurfio’r baddondy yn cael eu hasio ynghyd.

Gyda’r nod o greu dehongliadau dynol, ac isymwybodol weithiau, o ddelwedd sy’n bodoli’n barod, mae’r darlun yn ganlyniad proses sy’n tynnu cliwiau gweledol o haen sylfaenol o ludwaith. Mae’r gwaith yn ffrwyth siawns ar y naill llaw a chrebwyll ar y llaw arall, a’i fwriad yw cofnodi twf proses yn hytrach na chreu gwaith coeth, rhagdybiedig (neu orffenedig hyd yn oed).

  

Dolenni

pixpix pix

Lleoliad


Gweld Oriel Ynys Monmewn map mwy

Cysylltu

facebook twitter

Oriel Ynys Môn
Rhosmeirch
Llangefni
Ll77 7TQ

Ffôn: +44 (0)1248 724444
Ffacs: +44 (0)1248 750282
Ebost:orielynysmon@anglesey.gov.uk


Bookmark and Share